Home Schooling in West Wales

31 July 2020
Liliana and Jack

Leeanne, a mother of two, living and working in West Wales, shares her experience of home schooling her children.

“I have been doing the best that I can with home schooling. It has been stressful at times, and hard work.  I’ve had to nag my children to get work done but there has been some fun and laughter.

When the announcement came from the Welsh Government that schools in Wales were going to reopen on the 29th of June and remain open until the 27th July, I was inundated with messages asking me what was I going to do and was I going to send my children back to school? These messages came from family and friends from the Gypsy community and the settled community.  We all have the same questions and concerns for our children.

I gave them all the same response. It is each individual parent’s choice. Remember not to judge other parents decisions.  You are not a bad parent if you send your children back to school and you are not a bad parent if you decide to keep them home for the time being.”

Mae Leeanne, sy'n fam i ddau o blant, yn byw ac yn gweithio yng Ngorllewin Cymru, yn rhannu ei phrofiad o addysgu ei phlant yn y cartref.

"Rwyf wedi bod yn gwneud fy ngorau gyda dysgu fy mhlant yn y cartref. Mae wedi bod yn straen ar adegau, ac yn waith caled.  Rwyf wedi gorfod swnian ar fy mhlant i wneud eu gwaith ond mae tipyn o hwyl a chwerthin wedi bod hefyd.

Pan ddaeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fod ysgolion yng Nghymru yn mynd i ailagor ar y 29ain o Fehefin ac aros ar agor tan y 27ain o Orffennaf, cefais fy moddi gan negeseuon yn gofyn imi beth oeddwn yn mynd i'w wneud ac a oeddwn am anfon fy mhlant yn ôl i'r ysgol? Daeth y negeseuon hyn gan deulu a ffrindiau o'r gymuned Sipsiwn a'r gymuned sefydlog.  Mae gennym i gyd yr un cwestiynau a phryderon am ein plant.

Rhoddais yr un ateb iddynt i gyd. Mae’n ddewis i bob rhiant yn unigol. Cofiwch beidio â barnu penderfyniadau rhieni eraill.  Nid ydych yn rhiant gwael os ydych yn anfon eich plant yn ôl i'r ysgol ac nid ydych yn rhiant gwael os ydych yn penderfynu eu cadw adref am y tro. "


Category
Region